Yr Hen Neuadd yr Ysgol

Bethlehem, Sir Gaerfyrddin

Gwasanaethu'r gymuned leol - mae ein neuadd ar gael ar gyfer archebu.


Cysylltwch â ni ...

Erbyn hyn, mae'r neuadd yn adeilad perffaith ar gyfer cyfarfodydd, partion penblwydd a phriodasau, a dathliadau o bob math. Mae'r lle yn gynnes, gyda gwres canolog, a phanelau haul.

Mae gan y neuadd cegin defnyddiol, modern, yn addas at baratoi a choginio bwyd, gyda pobdy, rhewgell, peiriant golchi llestri, meicrodon, peiriannau coffi, a digon o lestri.

Mae'r toiledau modern yn addas I bobol anabl, ac i newid babanod, ac mae drysau ochr a cefn yn dderbyniol I cadeiriau olwyn.

Mesurwyd y brîf neuadd yn 8.4m x 5.2m, a'r ystafell fach yn 4.8m x 3.2m.

Tu allan i'r neuadd, mae'n bosib parcio ceir gerllaw, yn ogystal a defnyddio y ddau hên maes chwarae. Yn ystod yr hâf, mae'r ardal allanol yn addas i barbiciw neu parti.

Cysylltwch â ni am gost yr awr. Gellir negodi cyfraddau hanner diwrnod a dydd hefyd.

I grŵpiau sy'n llogi yn gyson, mae cwpwrdd gyda clô ar gael i gadw nwyddau.

Am manylion pellach, cysylltwch â ni drwy'r wefan hon.

Ein Hanes:

Adeiladwyd yr hên ysgol yn 1864, a chaewyd yn 2000. Yn ystod yr 1880-au, cofrestrwyd 76 o blant yr ardal yn yr ysgol ond erbyn diwedd ei hoes, dim ond chwech plentyn oedd yn mynychu'r ysgol.

Ffurfiwyd Cymdeithas Cymunedol yn 'nwy fîl, ac yn 2004 fe lwyddwyd prynnu'r adeilad oddi wrth y cyngor. Ar ôl derbyn arian Loteri, fe adnewyddwyd yr hên ysgol yn llwyr.

Enw gwreiddiol y pentref oedd Dyffryn Ceidrych, ond yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe cymerwyd yr enw Bethlehem, sef enw'r capel lleol.